CROESO i wefan Fforwm Celfyddydau Powys

Be' ydy Fforwm Celfyddydau Powys?

  • Sefydliad annibynnol ac elusen gofrestredig ydy Fforwm Celfyddydau Powys, ac mae'n gweithio i gyfuno a chyfoethogi gweithgareddau'r celfyddydau ar hyd a lled sir Powys.

Be' mae'n gallu ei wneud ar fy nghyfer i?
Os oes gennych chi unrhyw beth i'w wneud â'r celfyddydau ym Mhowys - gweledol, celfyddydau perfformio, ysgrifennu, cerddoriaeth - mae Fforwm Celfyddydau Powys yn gallu cynnig:

  • Llais wrth lunio rhaglenni a pholisi - yn lleol, yn rhanbarthol ac yn genedlaethol
  • Fforwm lle gallwch chi fynegi'ch syniadau, eich pryderon a'ch llwyddiannau
  • Cyfle i rwydweithio â phobl o'r un anian
  • Awgrymiadau ynglŷn â sut i arddangos eich doniau a dod o hyd i gyfleoedd ariannu

Sut Ydw i'n Ymuno?

Os ydy hyn at eich dant chi, cliciwch isod i fynd i'n tudalen aelodaeth. Dim ond £5 y flwyddyn ydy aelodaeth, ond mae o gymorth aruthrol i ni

Cynhadledd 2010

Fe fydd Cynhadledd Undydd gyntaf oll y Fforwm yn cael ei chynnal yng Ngwesty Cwm Elan Ddydd Sadwrn, 12fed Mehefin 2010. Fe fydd yn canolbwyntio ar y cyfleoedd y tu hwnt i Bowys ar gyfer artistiaid, yn ogystal â helpu i adeiladu rhwydweithiau a fydd yn cryfhau ein gallu i fanteisio ar gyfleoedd o'r fath.
Mae Gweithgor bach o aelodau'r Fforwm yn cynorthwyo â chynllunio'r gynhadledd, a gallwch chi fynd i dudalen ein Cynhadledd i gael y wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau.

Mynd i Dudalen y Gynhadledd...

Gallwch chi hefyd gyfrannu eich syniadau eich hun trwy ymaelodi â'r Fforwm ac ymuno â'r ddadl ynglŷn â'r Gynhadledd ar ein negesfyrddau.

Mynd i Dudalen yr Aelodau ...

 

 

Y Newyddion Diweddaraf gan Gyngor Celfyddydau Cymru